CUDDIO TUDALEN

Hyfforddiant 3ydd Sector

Mae'r 'Trydydd Sector' yn derm sy'n cwmpasu ystod o wahanol sefydliadau sydd â gwahanol strwythurau a dibenion. Nid ydynt yn perthyn i'r sector cyhoeddus (a redir gan y wladwriaeth) na'r sector preifat (gwneud elw neu fenter breifat). Mae rhai termau eraill sy'n cael eu defnyddio i ddisgrifio sefydliadau'r 3ydd Sector - y sector gwirfoddol, sefydliadau anllywodraethol, nid-er-elw.

Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS) a Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot (CGS CNPT), yw'r sefydliadau ymbarél ar gyfer gweithgarwch gwirfoddol ledled Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gan gefnogi, datblygu a chynrychioli mudiadau, gwirfoddolwyr a chymunedau gwirfoddol ar draws y rhanbarth.

Gall helpu sefydliadau i gael mynediad at hyfforddiant priodol i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn datblygu ac yn diweddaru eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u hyder.


Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS)

Mae SCVS yn cynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant i aelodau o sefydliadau gwirfoddol yn ardal Abertawe. Mae cyrsiau achrededig a heb eu hachredu ar gael.

SCVS

CVS Castell-nedd Port Talbot

Mae CGG Castell-nedd Port Talbot yn darparu cyfleoedd dysgu anffurfiol a ffurfiol sydd wedi'u cynllunio i wella sgiliau, gwybodaeth a hyder unigolion, sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr.

CVS Castell-nedd Port Talbot