Oeddech chi'n gwybod y gall cael digon o gwsg wneud i chi deimlo'n hapusach ac yn iachach?
Mae cwsg yn cefnogi eich corff a'ch meddwl yn gwella o'ch diwrnod, a gall wneud eich ffocws yn llawer gwell. Gall peidio â chael digon o gwsg effeithio ar eich hwyliau, a gall wneud i chi deimlo'n isel ac yn bryderus.
Mae'r Cyngor Cwsg yn argymell yr oriau cysgu canlynol yn ôl eich oedran:
Mae'r uchod yn ganllaw defnyddiol ond gall amrywio yn ôl person a'r newidiadau y mae eich corff yn mynd trwyddynt. Os ydych chi'n teimlo'n flinedig yn ystod y dydd a heb egni, efallai nad ydych chi'n cael digon o gwsg. Edrychwch ar awgrymiadau cysgu iach yma
https://www.nhs.uk/live-well/sleep-and-tiredness/healthy-sleep-tips-for-children/
Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi'n cysgu'n dda y rhan fwyaf o nosweithiau, yn cael trafferth deffro a gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd, yna efallai y bydd angen i chi siarad â rhywun fel eich meddyg teulu i gael eich gwirio. Gall yr hyn rydych chi'n ei fwyta a'i yfed gael effaith ar gwsg hefyd, ac os ydych chi'n cael trafferth cael digon o gwsg, efallai y byddwch am geisio osgoi yfed te, coffi a chynhyrchion caffein eraill, yn enwedig gyda phrydau bwyd.
Mae dolen isod i'r British Dietetic Association sy'n rhoi taflen ffeithiau ar fwyd a hwyliau:
https://www.bda.uk.com/resource/food-facts-food-and-mood.html
Mwy o wybodaeth am gysgu a phethau eraill i feddwl amdanynt.
Faint o gwsg sydd ei angen arnoch? Ffilm fer gan Life Noggin.
Ffilm fer (a super fun) am gerdded cwsg ('somnambulism') o Life Noggin.