Gamblo, neu betio, yw pan fyddwch chi'n rhoi arian (neu rywbeth o werth) ar ddigwyddiad sydd â chanlyniad ansicr. Fel arfer mae'n cael ei wneud i ennill arian neu eitem o werth. Mae enghreifftiau'n cynnwys rasio ceffylau, bingo, y Loteri Genedlaethol, hapchwarae ar-lein a poker.
Nawr bod gan y mwyafrif o blant oed ysgol uwchradd ffôn symudol a mynediad i'r rhyngrwyd, mae gamblo'n cynyddu. Gellir ei wneud yn unrhyw le – gartref, ar y bws, eistedd mewn parc.
Mae yna wahanol fathau o gamblwyr yn amrywio o gamblwyr cymdeithasol achlysurol (lle mae gamblo yn un o lawer o bethau i'w gwneud) i gamblwyr cymhellol (sydd wedi colli pob rheolaeth dros eu harferion gamblo). Gall hyd yn oed gamblwyr cymdeithasol brofi newidiadau yn eu hwyliau, er enghraifft, os ydynt yn colli. Fodd bynnag, mae'r rhai sydd â phroblem gyda'u gamblo mewn mwy o berygl o ddioddef o straen, pryder ac iselder.
GamCare and YCAM (The Young Gamblers Education Trust)
Addysg, Hyfforddiant a Chefnogaeth i bobl ifanc a'r rhai sy'n eu cefnogi.
Llinell Gymorth Gamblers Cenedlaethol: 0808 8020 133 (24 awr)
Cefnogaeth Hunangymorth
Sgwrs Fyw