Os ydych chi'n blentyn neu'n berson ifanc sy'n byw yn Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot, mae TidyMinds yma i'ch helpu i ddeall y ffordd rydych chi'n teimlo, a dod o hyd i'r cyngor a'r gefnogaeth gywir. Rydym yn gweithio'n barhaus i sicrhau bod y wefan hon yn diwallu eich anghenion.
Os ydych chi wedi anafu eich hun neu wedi cymryd gorddos, ffoniwch 999 neu ewch i adrannau damweiniau ac achosion brys.
Nid yw cymorth 1-i-1 ar gael bellach drwy KOOTH yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Peidiwch â phoeni, mae TidyMinds yn darparu opsiynau o wasanaethau eraill yn eich ardal neu'n genedlaethol sy'n cynnig cymorth tebyg. Chwilio am gefnogaeth 1-i-1, cliciwch ar y botwm isod i ddarganfod ble y gallwch gael mynediad iddo.
Gall llawer o bethau sy'n digwydd yn eu bywydau effeithio ar bobl ifanc. Mae TidyMinds wedi llunio rhestr o rai o'r materion cyffredin.
Ddim yn siŵr a oes angen cefnogaeth arnoch ai peidio? Dyma rai cliwiau i'ch helpu i benderfynu, ynghyd â rhai awgrymiadau defnyddiol ar ofalu amdanoch chi'ch hun.
Gall plant a phobl ifanc fod angen cefnogaeth emosiynol am amryw resymau. Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr, mae gennym wybodaeth ac adnoddau a allai helpu.
Edrychwch ar y gwahanol wasanaethau yn Abertawe sy'n cefnogi plant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl.
Mae TidyMinds wedi llunio rhestr o wasanaethau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl yng Nghastell-nedd Port Talbot.