CUDDIO TUDALEN
Cartref » Rwy'n berson ifanc » Ymdopi â materion cyffredin » Byw'n Annibynnol » Byw'n annibynnol yng Nghastell-nedd Port Talbot

Byw'n annibynnol yng Nghastell-nedd Port Talbot

Ydych chi'n ddigartref, syrffio soffa, mewn perthynas ymosodol neu mewn perygl o ddod yn ddigartref?

Cysylltwch â Llinell Gymorth Pobl Ifanc Llamau. Mae'n cael ei redeg mewn partneriaeth â Shelter Cymru ac mae'n rhad ac am ddim: 08000 495 495. Bydd cydweithwyr a gwirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi'n dda yn eich helpu i gael llety dros dro diogel, ac yn rhoi cyngor ar sut i gadw'ch hun yn ddiogel.


Cysgu allan? +

Os ydych eisoes yn cysgu allan, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r Pwynt Cyswllt Sengl (SPOC) yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot fel eu bod yn gwybod bod angen llety a chymorth arnoch.

Pwynt Cyswllt Sengl (SPOC):

Ffôn: 01639 686802

E-bost: spoc@npt.gov.uk

Ddim yn gallu aros gartref mwyach? +

Weithiau ni all pobl ifanc aros yng nghartref eu teulu mwyach. Gallai hyn fod oherwydd anawsterau gyda pherthnasoedd, neu efallai na fydd yn ddiogel iddynt barhau i fyw gartref.

Yng Nghymru, os ydych mewn perygl o ddod yn ddigartref yn ystod y 56 diwrnod nesaf (tua dau fis), mae dyletswydd ar eich awdurdod lleol i ddod o hyd i lety arall i chi, yn enwedig os nad yw'n ddiogel i chi aros gartref.

Os ydych chi'n cael problemau gyda'ch perthynas gartref, gallai gwasanaeth Cyfryngu Teulu Llamau fod yn opsiwn:

Ffôn: 07881 093711

Dod o hyd i lety +

Mae'r elusen Llamau yn darparu prosiectau llety sy'n cefnogi pobl ifanc 16 – 25 oed yng Nghastell-nedd Port Talbot. I gael mynediad i'r llety hwn, bydd angen i chi gael eich cyfeirio gan Gyngor CNPT.

Pwynt Cyswllt Sengl (SPOC):

Ffôn: 01639 686802

E-bost: spoc@npt.gov.uk


Gwasanaethau Lleol

Pobl

Mae Cynllun Llety â Chymorth Pobl 'Clarewood' yn rhedeg cynllun allgymorth sy'n cefnogi pobl ifanc 16 i 25 oed sy'n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref. Gall y cynllun gefnogi gyda chael mynediad i lety, gwneud cais am fudd-daliadau, mynychu apwyntiadau, cymorth iechyd meddwl cyffredinol, cymorth gyda chyflogaeth/addysg a chyfeirio at wasanaethau eraill.

E-bost: caleb.heymans@poblgroup.co.uk

Mob: 07796367277