Mae Y-HUB yn grŵp ieuenctid cyffredinol a gynhelir nos Wener yn YMCA Abertawe. Mae'n agored i bawb rhwng 11 a 25 oed ar sail galw heibio.
Gyda bwyd poeth, cerddoriaeth a gweithdai wythnosol, mae'n cynnig amgylchedd diogel a chyfeillgar i Bobl Ifanc gyda chefnogaeth broffesiynol.
Ffôn: 01792 652032
E-bost: info@ymca.org.uk
Mae GoodVibes yn grŵp ieuenctid LHDTQ+ cynhwysol, sy'n cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.
Mae'n darparu lle diogel sy'n lleihau teimladau o unigrwydd ac unigedd. Gall pobl ifanc feithrin cyfeillgarwch cymheiriaid mewn cymuned fel eu bod yn perthyn, cyfrannu a ffynnu.
Ffôn: 01792 652032
E-bost: info@ymca.org.uk
Cefnogaeth galw heibio ieuenctid i blant a phobl ifanc du a lleiafrifoedd ethnig 10+ oed.
I ddarganfod mwy:
Ffôn: 01792 466980 / 07394 923317 (10am – 1pm) / 07512 792182 (1pm – 4pm).
E-bost: info@eyst.org.uk
Mae Mixtup yn glwb ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed sydd â galluoedd cymysg.
Mae gennym nifer o sesiynau clwb ieuenctid drwy gydol y mis yn ogystal â theithiau a chefnogaeth unigol.
I gael gwybod mwy neu cysylltwch â:
Ffôn: 07543 273891
E-bost: mixtupswansea@gmail.com
Man diogel i unrhyw un 13-16 oed sydd angen rhywfaint o gymorth gyda’u hiechyd meddwl neu sydd eisiau gwella eu lles. Dewch i ymuno â ni mewn lle croesawgar, hamddenol i blymio i mewn i weithgareddau hwyliog fel hapchwarae, crefftio a gwneud celf, neu dewch i ymlacio a chael sgwrs.
Trowch lan, dim angen archebu, ac arhoswch mor hir ag y dymunwch!
Dydd Mawrth, 4:30-6:30pm ym Mhencadlys Platfform, Ty Beaufort, Heol Beaufort, Treforys, Abertawe SA6 8JG