Gall gwaith ddod â heriau yn aml ond mae Covid-19 wedi dod ag anawsterau ychwanegol i ni a allai fod wedi effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol.
Efallai y bydd gan eich cyflogwr wasanaethau i'ch cefnogi felly byddem yn argymell eich bod yn siarad â nhw fel man galw cyntaf. Gall yr adnoddau a'r dolenni isod fod yn ddefnyddiol hefyd.
Mae hunanofal ar gyfer pawb, nid dim ond y rhai sy'n cael trafferth gyda salwch meddwl. Gall gwneud newidiadau i ofalu amdanom ein hunain gael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl, a gallai hyd yn oed atal anawsterau rhag gwaethygu.
Cofiwch fod hunanofal yn fan cychwyn, ac nid yn lle ceisio cymorth proffesiynol. Ni ddylech fyth deimlo bod yn rhaid i chi ddelio â'ch problemau ar eich pen eich hun.
Mae Canolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Rhydychen yn gweithio gyda nifer o sefydliadau rhyngwladol i ddarparu addysgu a hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar.
Mae RCS yn darparu cefnogaeth, hyfforddiant a therapïau personol i helpu pobl a busnesau ledled Cymru i wella eu lles ar gyfer gwaith. Maent yn cynnig cefnogaeth gyda:
Ffôn: 01745 336442 neu E-bost: hello@rcs-wales.co.uk
Cyngor, gwybodaeth ac offer i'ch helpu i ofalu am eich lles yn y gwaith.
E-bost: EAPqueries@socialcare.wales
Ar gyfer cyngor a chymorth penodol, cynghorir staff addysgu i ymgynghori â'u hundebau eu hunain, gan gynnwys: