Gall symud o'r ysgol, y coleg neu'r brifysgol deimlo fel newid enfawr. Mae'n debygol y bydd y math o ddysgu yn teimlo'n wahanol iawn. Rydych chi mewn lleoliadau anghyfarwydd gyda systemau a staff anghyfarwydd. Yn aml mae'n rhaid i chi wneud ffrindiau newydd a dechrau bywyd cymdeithasol hollol newydd.
Gall newidiadau bywyd fel hyn gael effaith fawr ar iechyd meddwl a lles emosiynol. Mae'n bwysig iawn cynllunio ymlaen llaw, ac aros mewn cysylltiad â phobl sy'n eich cefnogi, a chael mynediad at wasanaethau cymorth os oes angen.
Ni fydd dechrau yn rhywle newydd bob amser yn berffaith ond rhowch amser iddo. Byddwch yn garedig â chi'ch hun. Cofiwch fod hwn yn gyfle gwych. Gall fod yn hwyl cwrdd â phobl newydd a dysgu pethau newydd amdanoch chi'ch hun.
Os oes angen cymorth arnoch ar gyfer eich iechyd meddwl tra'ch bod yn astudio yng Nghastell-nedd Port Talbot neu Abertawe, mae yna ychydig o opsiynau. Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu lleol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe:https://sbuhb.nhs.wales/community-services/primary-care/gps/
Darllenwch am y gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe INSERT LINK neu sgroliwch i lawr i ddarganfod pa gefnogaeth sydd gan eich coleg/Prifysgol ar gynnig.
Os ydych chi'n dal yn ansicr ynghylch beth rydych chi am ei wneud, gall Gyrfa Cymru helpu. Cysylltwch â nhw ar 0800 028 4844 neu cliciwch https://careerswales.gov.wales/
Mae gan Grŵp Coleg NPTC wefan ddefnyddiol gyda pharth myfyrwyr, gyda gwybodaeth ar sut y gallwch gael mynediad at wasanaethau.
Dysgwch fwy am yr hyn sydd gan fywyd myfyriwr i'w gynnig yng Ngholeg Gŵyr gan gynnwys pa gymorth sydd ar gael – chwiliwch am ofal bugeiliol.
Mae llawer o wasanaethau cymorth ar gael i chi ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym am eich cefnogi i gael y gorau o'ch astudiaethau a'ch bywyd personol, tra byddwch yma ac ar ôl i chi raddio.
Edrychwch ar yr hyn y mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ei wneud i gefnogi lles myfyrwyr.